MurielGIBBYYn dawel ar 21ain o Fedi 2022 gydag urddas, ar ôl brwydr hir, hunodd Muriel, gynt o Awel y Coed, Caerfyrddin, yn 87 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar John, Mam gariadus a chefnogol Susan a Judith, Mam-yng-nghyfraith barchus Roland a Dyfed, Mam-gu ymroddgar Nia a Steffan, a chwaer ffyddlon y diweddar Ron. Angladd hollol breifat yn ôl eu dymuniad. Blodau'r teulu'n unig. Os dymunir, derbynnir rhoddion er cof tuag at Alzheimer's Society Cymru, trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin. SA31 2PG. 01267 237100
Keep me informed of updates